£

Rydym wedi paratoi rhai cwestiynau y gallech o bosibl eu gofyn i ymgeiswyr. Nid oes angen i chi ofyn yr holl gwestiynau hyn ac mae croeso i chi feddwl am eich cwestiynau eich hun yn seiliedig ar eich profiad, gan gynnwys gyda'ch GIG lleol.

policy graphic

Helpwch ni i gyrraedd Aelodau’r Senedd

Canser y gwaed, sy'n cynnwys lewcemia, lymffoma a myeloma, yw'r pumed canser mwyaf cyffredin a'r trydydd canser sy’n lladd y nifer mwyaf o bobl yng Nghymru, ond mae'n aml yn cael ei anwybyddu mewn polisïau.

Os cewch eich ethol, a wnewch chi ymrwymo i gyfarfod â Blood Cancer UK i wybod sut y gallwch ddefnyddio eich llais yn y Senedd i helpu gyflawni dyfodol lle na fydd unrhyw un yn marw o ganser y gwaed na'i driniaethau?

A icon showing tablets on a dark red background

Gwella mynediad at driniaethau

Nid yw pob meddyginiaeth ar gyfer canser y gwaed a gymeradwywyd i'w defnyddio gan reoleiddwyr ar gael i gleifion canser y gwaed yng Nghymru.

Sut byddwch chi'n gwella mynediad at driniaethau newydd arloesol i gleifion ledled y wlad?

A icon showing test tunbes on a dark red background

Mynediad at dreialon clinigol

Yng Nghymru, dim ond 26% o bobl â chanser y gwaed a drafododd gyfleoedd o ran treialon clinigol ar ôl cael diagnosis.

Os cewch eich ethol, sut bydd eich plaid yn sicrhau bod mwy o dreialon ar gael i gleifion canser y gwaed?

policy icons

Dod â’r argyfwng o fewn y gweithlu i ben

Ar hyn o bryd mae 60% o haematolegwyr ymgynghorol yng Nghymru, sy'n gyfrifol am ofal canser y gwaed ond hefyd am bob trallwysiad gwaed yng Nghymru, ar fin ymddeol.

Sut bydd eich plaid yn mynd i'r afael â'r argyfwng presennol yng Nghymru o ran y gweithlu haematoleg?

policy icons

Gwella ansawdd data

Oherwydd ansawdd data gwael, ni allwn ddweud yn hyderus ar hyn o bryd faint o bobl yng Nghymru sydd â chanser y gwaed.

Sut bydd eich plaid yn cynyddu hyder mewn data ynghylch canser y gwaed ac yn sicrhau bod pobl â chanser y gwaed a'r gweithlu canser y gwaed yng Nghymru yn cael eu cyfran deg o fuddsoddiad?

policy icons

Gwella’r profiad o gael diagnosis

Mae symptomau canser y gwaed yn aml yn amwys ac felly'n anoddach i'w hadnabod, a bu'n rhaid i 29% o bobl â chanser y gwaed yng Nghymru fynd at eu meddyg teulu o leiaf dair gwaith cyn cael eu cyfeirio at arbenigwr.

Os cewch eich ethol, sut y bydd eich plaid yn anelu at wella'r profiad o gael diagnosis i bobl â chanser y gwaed yng Nghymru?