£

Gwybodaeth a chymorth canser y gwaed yn Gymraeg | Welsh

We're here for you if you want to talk

0808 2080 888

[email protected]

Rydym yn darparu help i bobl sydd â chanser y gwaed, gan gynnwys gwybodaeth a chymorth di-dâl yn Gymraeg.

Gwybodaeth am ganser y gwaed yn Gymraeg

Mae'r fideo hwn yn esbonio beth yw canser y gwaed, sut mae'n cael ei drin, a gwybodaeth ddefnyddiol arall.

Blood cancer information in Welsh

Beth yw canser y gwaed?

Canser y gwaed yw'r pumed canser mwyaf cyffredin yn y DU.

Mae'n fath o ganser sy'n effeithio ar eich gwaed.

Y prif fathau o ganser y gwaed yw lewcemia, lymffoma, myeloma, syndromau myelodysplastig (MDS) a neoplasmau myeloproliferative (MPN).

Maen nhw i gyd yn datblygu'n wahanol ac mae angen triniaethau gwahanol arnynt.

Pan fydd gennych ganser y gwaed, mae rhywbeth yn mynd o'i le y tu mewn i'ch celloedd gwaed, ac mae'ch gwaed yn stopio gweithio'n iawn.

Gall hyn achosi symptomau fel cleisio, gwaedu, chwysu yn y nos, heintiau, poen a blinder.

Achosion canser y gwaed

Mae canser y gwaed yn dechrau gyda phroblem yn y DNA y tu mewn i gelloedd, ond nid ydym yn gwybod pam mae hyn yn digwydd.

Ond nid eich bai chi yw canser y gwaed – nid yw pethau fel ysmygu a deiet yn chwarae rhan fawr mewn canser y gwaed. Nid ydych wedi gwneud unrhyw beth i wneud iddo ddigwydd.

Ni allwch ddal canser y gwaed na'i basio ymlaen i rywun arall.

Triniaeth canser y gwaed

Mae sawl math o ganser y gwaed yn cael eu trin â chemotherapi, ond mae triniaethau eraill.

Mae rhai pobl yn cael triniaeth yn yr ysbyty, a gall eraill gymryd tabledi neu bigiadau gartref.

Mewn rhai mathau o ganser y gwaed, nod y driniaeth yw gwella'r canser.

Ar gyfer mathau eraill o ganser y gwaed, nod triniaeth yw rheoli'r canser fel y gallwch fyw ag ef.

Prognosis canser y gwaed

Mae'ch prognosis yn unigryw iawn i chi.

Mae'r pethau sy'n effeithio ar eich prognosis yn cynnwys eich math o ganser y gwaed, pa mor gynnar y cafodd ei ganfod, sut rydych yn ymateb i driniaeth, eich oedran, a'ch iechyd a lles cyffredinol.

I gael gwybod am eich prognosis, siaradwch â'ch tîm meddygol.

Eich apwyntiadau meddygol

Os oes angen gwybodaeth arnoch yn Gymraeg, gallwch ofyn am gyfieithydd yn eich apwyntiadau meddygol. Gofynnwch i'ch ysbyty.

Hyd yn oed os oes gennych chi aelod o'r teulu neu ffrind sy'n gallu cyfieithu, mae'n syniad da cael cyfieithydd meddygol proffesiynol. Gallant sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth gywir.

Ceisiwch gael perthynas dda gyda'ch tîm meddygol. Byddwch yn onest am sut rydych chi'n teimlo - po fwyaf maen nhw'n ei wybod, y gorau y gallant eich helpu.

Dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs am bethau sy'n bwysig i chi. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar ddiet, neu'ch anghenion crefyddol neu ysbrydol.

Gallwch ofyn am weld meddyg sy'n fenyw neu'n ddyn os yw hyn yn bwysig i chi.

Cofiwch, dylai fod gennych enw a manylion cyswllt rhywun yn eich tîm meddygol. Nyrs fydd hon fel arfer, fel nyrs glinigol arbenigol (CNS).

Deiet ac ymarfer corff gyda chanser y gwaed

Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich hun a gwella eich siawns o aros yn iach.

Bwyta'n dda. Mae’n well cael diet iach a chytbwys gyda digon o ffrwythau a llysiau ffres.

Cadw'n heini. Bydd cadw eich hun i symud yn helpu. Gwnewch yr hyn a allwch, a gwrandewch ar eich corff. Mae hyd yn oed taith gerdded fer o bum munud yn dda i chi.

Heintiau a chanser y gwaed

Byddwch yn wyliadwrus am arwyddion o haint. Os cewch haint pan fydd gennych ganser y gwaed, gallai ddod yn ddifrifol yn gyflym.

Dywedwch wrth eich tîm meddygol ar unwaith os cewch unrhyw arwyddion o haint - tymheredd, annwyd neu symptomau ffliw. Mae hyn yn bwysig iawn.

Cael eich brechiadau. Gall brechiadau helpu eich corff i frwydro yn erbyn heintiau, felly siaradwch â'ch tîm meddygol ynghylch pa frechiadau i'w cael.

Help ariannol

Peidiwch â bod yn swil i ofyn am arian, mae'n gwestiwn cyffredin iawn.

Efallai y byddwch yn gallu cael rhai budd-daliadau, a help gyda chostau ynni neu fwyd.

Gallwch hefyd gael presgripsiynau am ddim, a chymorth gyda chost parcio a theithio i'r ysbyty.

Siaradwch â nyrs canser y gwaed yn Gymraeg

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich diagnosis neu os ydych chi eisiau siarad, rydyn ni yma i chi.

Gallwch siarad â'n nyrsys canser y gwaed yn Gymraeg gan ddefnyddio cyfieithydd, yn rhad ac am ddim. I ddefnyddio’r gwasanaeth, ffoniwch 0808 2080 888 a dywedwch eich bod yn siarad Cymraeg.

Byddant yn gofyn am eich rhif ffôn ac yn eich ffonio'n ôl ar ôl tua 5 munud, gyda chyfieithydd ar yr alwad.

Mae Blood Cancer UK yma i gefnogi pawb sydd wedi’u heffeithio gan ganser y gwaed.

Alice sitting in chair

Blood cancer health information

We’re here for everyone affected by blood cancer, whether it’s leukaemia, lymphoma, myeloma, MDS or MPN. Our online health information is accessible and easy to understand, whatever stage of your blood cancer journey you're at.

More About This

Funding disclosure

Our translated health information has been funded by Gilead Sciences, who provided funding for translation and production but had no further input into the work or content.

Your feedback

If you have any feedback or questions about our support in other languages, please contact us at [email protected] and we will be happy to answer.