£

Rydym yn gwybod beth sydd ei angen i guro canser y gwaed yng Nghymru, felly rydym yn gofyn i Lywodraeth nesaf Cymru gymryd y camau canlynol:

Welsh manifesto icon

1. Cyflwyno strategaeth canser hirdymor ar gyfer Cymru dan oruchwyliaeth arweinyddiaeth sy’n cynnwys arbenigwyr canser y gwaed

  • Erbyn hyn, Cymru yw’r unig wlad yn y DU nad oes ganddi strategaeth hirdymor ar gyfer canser.
  • Yn rhy aml mae mentrau cenedlaethol ar gyfer canser yn canolbwyntio ar ganserau tiwmor solet.
Workforce icon

2. Dod â’r argyfwng presennol sy’n parhau i fynd o ddrwg i waeth i ben o fewn gweithlu canser y gwaed

  • Mae 60% o haematolegwyr ymgynghorol a 38.5% o Nyrsys Clinigol Arbenigol ym maes haematoleg yng Nghymru ar fin ymddeol.
  • Mae’r sefyllfa yn waeth mewn ardaloedd gwledig a mwy anghysbell, ac mewn rhai ardaloedd nid oes unrhyw haematolegwyr ymgynghorol newydd wedi’u penodi ers cryn amser.
data icon

3. Cynnal adolygiad brys o ddata am ganser y gwaed

  • Nid oes cysondeb o ran y modd y caiff data am ganser y gwaed ei gofnodi, ei gategoreiddio a’i ddadansoddi.
  • Nid oes data am ethnigrwydd yng Nghymru ond ar gael ar gyfer 42% o gofnodion am lymffoma nad yw’n Hodgkins yng Nghymru, o’i gymharu ag 87% yn Lloegr. Mae bylchau o ran data demograffig yng Nghymru yn ei gwneud hi’n anodd pennu anghydraddoldebau o ran iechyd.
diagnosis icon

4. Cywiro bylchau mewn data am ddiagnosis canser y gwaed

  • Os nad yw pobl sy’n cael diagnosis o ganser y gwaed yng Nghymru yn cael eu cyfrif yn gywir mae’n anochel nad yw’r gofal a gynigir i gleifion yn ddigonol
An illustration of test tubes in a rack, representing clinical research.

5. Sicrhau bod mwy o bobl â chanser y gwaed yn cael diagnosis yn gynharach, gan gynnwys canserau nad oes cam wedi’i bennu ar eu cyfer

  • Bu’n rhaid i 29% o bobl yng Nghymru y mae canser y gwaed arnynt ymweld â’u Meddyg Teulu o leiaf dair gwaith cyn iddynt gael eu cyfeirio at arbenigwr
  • Mae targedau’r Llywodraeth o ran rhoi diagnosis i ganser yn seiliedig ar gamau. Nid yw’r rhain yn cynnwys canserau nad oes cam wedi’i bennu ar eu cyfer, fel y rhan fwyaf o ganserau’r gwaed, a gallent gael eu diystyru mewn ymdrechion o ran sicrhau diagnosis cynnar
charity partnership

6. Creu partneriaeth rhwng Byrddau Iechyd ac elusennau er mwyn cynnig gwell cymorth i bobl ar ôl iddynt gael diagnosis o ganser y gwaed

  • Nid oedd 58% o bobl yr oedd canser y gwaed arnynt yn ymwybodol o’r cymorth emosiynol a’r cymorth ymarferol sydd ar gael iddynt ar ôl iddynt gael diagnosis
  • Mae Blood Cancer UK yn barod i gefnogi pobl ar ôl iddynt gael diagnosis gyda’i Wasanaeth Cyfeirio, ond mae angen i’r GIG ei fabwysiadu
welsh research

7. Cyflwyno dull o gynnal gwaith ymchwil yng Nghymru lle gall ymchwil academaidd ac ymchwil masnachol ffynnu, gyda gwell mynediad at driniaethau ar gyfer canser y gwaed

  • Yng Nghymru, cred 59% o’r bobl y mae canser y gwaed wedi effeithio arnynt y dylai cynyddu’r gwaith ymchwil i driniaethau blaengar fod yn flaenoriaeth ym maes polisi canser at y dyfodol
  • Dim ond 26% o’r bobl yng Nghymru y mae canser y gwaed arnynt sydd wedi trafod cyfleoedd ymchwil ar ôl eu diagnosis
  • Golyga lleoliad canolfannau triniaeth yng Nghymru fod yn rhaid i lawer o bobl deithio i gael triniaeth ganser y gwaed, ond ni all pawb fforddio hyn

Lawrlwythwch ein maniffesto

policy elections graphic

Yr hyn sydd ei angen: Eich llais

Gan eich bod wedi darllen ein canllaw ar sut i siarad â’ch ymgeiswyr lleol, darllenwch rai cwestiynau rydym wedi’u paratoi ar eich cyfer.

Helen Allen talking to an MS