£

Gwyddom y gall drafod ag ymgeiswyr gwleidyddol deimlo'n frawychus, ond ni waeth faint neu ychydig y gallwch ei wneud, mae unrhyw drafod yn dal i fod yn werth chweil. Dyma rai awgrymiadau gwych ar gyfer cysylltu ag ymgeiswyr yn y cyfnod cyn-etholiadol, a thempled e-bost a allai helpu wrth i chi gysylltu â nhw.

Dod i wybod pwy yw eich ymgeiswyr

Defnyddiwch ein offeryn e-weithredu i ddod o hyd i'ch ymgeiswyr lleol ac ysgrifennu atynt. Mae'r offeryn yn cynnwys templed e-bost rhagarweiniol rydyn ni wedi'i baratoi ar eich cyfer y gallwch ei ddiweddaru i gynnwys eich stori bersonol eich hun. Gallwch hefyd ddod o hyd i'ch ymgeiswyr lleol ar wefannau’r pleidiau gwleidyddol, ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar daflenni sy'n dod trwy eich drws.

Rhannu eich stori a’i chadw’n lleol

Ni fydd llawer o ymgeiswyr erioed wedi cwrdd ag unrhyw un â chanser y gwaed ac ni fyddant yn ymwybodol o’r effaith. Mae'r etholiad hwn yn gyfle i'w cyflwyno i ganser y gwaed. Gall rhannu eich stori fod yn ffordd bwerus o ymgysylltu ag ymgeiswyr - yn enwedig os ydych chi wedi wynebu heriau gyda'ch diagnosis, triniaeth neu ofal yn yr etholaeth maen nhw am ei chynrychioli. Yn ein templed e-bost, mae lle i chi rannu eich stori. Chi piau’r dewis o ran gwneud hyn ai peidio.

Cyfarfod â’ch ymgeiswyr

Os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad â'ch ymgeiswyr wyneb yn wyneb, gallwch ofyn iddynt gwrdd â chi. Efallai y bydd ymgeiswyr a'u hymgyrchwyr yn curo ar eich drws i ofyn i chi a fyddwch chi'n pleidleisio yn yr etholiad a pha faterion sy'n bwysig i chi. Mae hwn yn gyfle i rannu eich pryderon, gan gynnwys am sut y bydd eu plaid yn mynd i'r afael â heriau canser y gwaed yng Nghymru os byddant yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru. Rydym wedi paratoi rhai cwestiynau i chi, gan ein bod yn gwybod y gall fod yn anodd meddwl am gwestiynau yn y fan a'r lle. Gallwch hefyd gwrdd ag ymgeiswyr trwy ofyn am gyfarfod, neu efallai y byddant yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus lle mae aelodau o wahanol bleidiau gwleidyddol yn ymateb i gwestiynau gan drigolion lleol.

Cofiwch barhau’n ddiduedd

Mae angen i elusennau aros yn niwtral mewn ymgyrchoedd etholiadol, felly mae'n bwysig i chi gofio pwysigrwydd bod yn wleidyddol ddiduedd os ydych yn gwneud unrhyw ymgyrchu ar ran Blood Cancer UK.

Hyrwyddo ein neges

Bydd llawer o ymgeiswyr yn amlwg iawn ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfnod yr etholiad. Gallech ailrannu negeseuon gan Blood Cancer UK gyda'ch cymuned leol.

Rhoi’r newyddion diweddaraf i ni!

Mae'n ddefnyddiol i ni gael cofnod o ba ymgeiswyr y mae etholwyr wedi siarad â nhw am ganser y gwaed yn y cyfnod cyn-etholiadol. Os cânt eu hethol, bydd hyn yn ein helpu i adeiladu ein sylfaen gefnogaeth yn y Senedd. Yn yr un modd, os ydych chi'n cael ymateb ysgrifenedig yn ôl gan un o'ch ymgeiswyr, byddem wrth ein bodd yn ei weld. Rhowch yr wybodaeth ddiweddaraf i dîm Polisi a Dylanwadu Blood Cancer UK drwy gynnwys [email protected] yn unrhyw negeseuon e-bost rydych chi'n eu hanfon neu gallech anfon ymatebion rydych wedi'u derbyn atom.

Banc Cwestiynau

Gan eich bod wedi darllen ein canllaw ar sut i siarad â’ch ymgeiswyr lleol, darllenwch rai cwestiynau rydym wedi’u paratoi ar eich cyfer.

Question marks on a dark purple background.