Wales lags behind England as blood cancer charity reveals ‘needless lives are being lost’
Wales
Today during Blood Cancer Awareness Month (Wednesday 4th September) Blood Cancer UK releases its comprehensive Action Plan "Taking blood cancer out of the shadows: A plan to increase survival in the UK". The landmark report outlines five key areas to improve survival and reduce disparities in access to treatment and care for those living with blood cancer.
Our Blood Cancer Action Plan
To address blood cancer survival in the UK, we brought together an Action Plan Taskforce that examined data and agreed recommendations for those who have the power to enact change. Now we need our blood cancer community to take action.
What the data told us
There are over 100 different types of blood cancer, including leukaemia, lymphoma and myeloma. Using international cancer registry data, Blood Cancer UK found that blood cancer survival in the UK lags behind similarly wealthy nations for every type of blood cancer. For those with the blood cancer non-Hodgkin lymphoma, survival is more likely in the US, Canada and Australia as well as Ireland, compared to the UK.
Blood Cancer UK’s Action Plan, developed in collaboration healthcare professionals, researchers, and individuals affected by blood cancer, recommends improvements in areas like workforce development, early diagnosis initiatives, reducing barriers to accessing care, and increasing access to treatments.
Separate analysis from the University of Oxford, supported by Ceri Bygrave and the team from Digital Health and Care Wales, shows that a staggering 940,000 potential years of life were lost to people in the UK diagnosed with blood cancer over a 10-year period. More than a third of these are among people under the age of 65.
Research also found that survival rates vary depending on factors such as geographic location, ethnicity, and social background. The new research found that if everyone diagnosed with blood cancer in England had the same five-year survival rates of those in the least deprived quintile, an estimated 6,500 excess deaths could be avoided.
Dr Ceri Bygrave, Taskforce member
Speaking specifically on the challenges faced in Wales, Dr Ceri Bygrave, who sat on the Blood Cancer UK Taskforce, said:
“The haematology workforce are overstretched and understaffed, with critical staff shortages and increasingly complex treatments leaving people delivering NHS blood cancer care under major pressure. This is a particular challenge in Wales where by 2032, 74% of permanent haematology consultants will reach the age of 60 with a shortfall in trainees to replace them.
“The crumbling NHS infrastructure that exists in Wales and a woeful IT infrastructure that lags a long way behind other centres in England are all things that compromise blood cancer patient care on a daily basis.
“To improve blood cancer survival, future NHS workforce plans must include an increase in the number of and support for blood cancer clinical nurse specialists, as well as action to turn around the drop in the number of clinicians doing blood cancer research.”
Speaking about the report, Blood Cancer UK’s CEO, Helen Rowntree said:
“Considering the huge strides we’ve made in blood cancer research in the last 60 years, blood cancer is still the UK’s third largest cancer killer. Needless lives are being lost and for those living with blood cancer there’s a real fear that they’re not getting the best care and support. The blood cancer community deserves better.
“The drivers of better survival in high-performing countries urgently need to be understood and implemented for those affected by blood cancer in the UK. Crucially our report, grounded in expert insight, outlines a series of recommendations to ensure people with blood cancer get the best possible care. We're confident that if the Welsh Government, NHS Wales and all policymakers come together to address our recommendations in Wales, it will contribute to making the UK a leader for blood cancer treatment for people no matter who they are or where they live. Help us bring blood cancer out of the shadows by writing to your MS and asking them to back our recommendations.”
Blood Cancer UK is urging people to write to their MS asking them to back the charity’s recommendations.
How people affected by blood cancer responded to the plan
Donna Dunn, from Cwmbran, South Wales who lost her daughter Emily to blood cancer in 2016 at the age of 18, said:
“We lost Emily to the side effects of treatments for non-Hodgkin lymphoma, a form of blood cancer. Blood cancer is such a complicated disease, and yet I was told when Emily was diagnosed it was a ‘good cancer’ to have.
“Emily was a grade-A student, who loved science, even in hospital she studied hard and she treated it as an opportunity to talk to the doctors about careers. Grief doesn’t get any easier, it just changes, we still miss her and talk about her every day. She has left a tremendous legacy but there are huge holes in support when it comes to blood cancer, which is why to keep Emily’s legacy we’re supporting Blood Cancer UK’s Action Plan.
“Emily did have treatment in Cardiff but more specialist treatment was needed. This was only available in Bristol but as a result of the complications she became too unwell to travel, yet remained well enough for the treatment. The more we can do to improve the levels of support for people with blood cancer and improve access to new treatments that prolong the quality and length of people’s life is so important.”
Our report is available to download in English and Welsh below.
Cymru ar ei hôl hi o’i chymharu â Lloegr wrth i elusen canser y gwaed ddatgelu bod 'bywydau yn cael eu colli yn ddiangen'
Lawrlwythwch gopi dan embargo o'r adroddiad a'r delweddau:
- Data newydd yn datgelu bod cyfraddau goroesi canser y gwaed yn y DU lawer yn is na chyfraddau gwledydd tebyg
- Mae’r atebion yn canolbwyntio ar y gweithlu, gwaredu rhwystrau gofal, gwella mynediad at driniaethau, a defnyddio data'n well
Heddiw, yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Gwaed (Dydd Mercher 4 Medi), mae Blood Cancer UK yn rhyddhau ei Gynllun Gweithredu cynhwysfawr "Sicrhau sylw i ganser y gwaed: Cynllun i gynyddu nifer y bobl yn y DU sy’n goroesi ". Mae'r adroddiad nodedig yn amlinellu pum maes allweddol i wella cyfraddau goroesi a lleihau gwahaniaethau o ran mynediad at driniaethau a gofal i'r rhai sy'n byw gyda chanser y gwaed.
Mae dros 100 o wahanol fathau o ganser y gwaed, gan gynnwys lewcemia, lymffoma a myeloma. Gan ddefnyddio data'r gofrestrfa ganser ryngwladol, canfu Blood Cancer UK fod cyfraddau goroesi canser y gwaed yn y DU ar ei hôl hi o’i gymharu â gwledydd cyfoethog tebyg o ran pob math o ganser y gwaed. I'r rhai sydd â lymffoma nad yw'n Hodgkins, mae pobl yn yr UDA, Canada ac Awstralia yn ogystal ag Iwerddon yn fwy tebygol o oroesi na phobl yn y DU.
Dywedodd Donna Dunn, o Gwmbrân, De Cymru a gollodd ei merch Emily i ganser y gwaed yn 2016 yn 18 oed:
"Fe gollon ni Emily o ganlyniad i sgil-effeithiau triniaethau ar gyfer lymffoma nad yw'n Hodgkins, sef math o ganser y gwaed. Mae canser y gwaed yn glefyd mor gymhleth, er dywedwyd wrthyf pan gafodd Emily ddiagnosis ei fod yn 'ganser da' i'w gael.
"Roedd Emily yn fyfyriwr gradd-A, a oedd wrth ei bodd â gwyddoniaeth, hyd yn oed yn yr ysbyty roedd hi'n astudio'n galed ac roedd hi'n ei drin fel cyfle i siarad â'r meddygon am yrfaoedd. Nid yw galar yn dod yn haws, mae'n newid, rydym yn dal i'w cholli ac yn siarad amdani bob dydd. Mae hi wedi gadael gwaddol aruthrol ond mae bylchau enfawr o ran cefnogaeth i gleifion canser y gwaed a’u teuluoedd, a dyna pam rydyn ni'n cefnogi Cynllun Gweithredu Blood Cancer UK er cof am Emily.
"Cafodd Emily driniaeth yng Nghaerdydd ond roedd angen triniaeth fwy arbenigol arni. Nid oedd y driniaeth hon ond ar gael ym Mryste, ond o ganlyniad i'r cymhlethdodau aeth yn rhy sâl i deithio, ond eto buodd yn ddigon da i dderbyn y driniaeth. Po fwyaf y gallwn ei wneud i wella lefelau cymorth i bobl â chanser y gwaed a gwella mynediad at driniaethau newydd sy'n ymestyn ansawdd a hyd bywyd pobl, po orau."
Mae Cynllun Gweithredu Blood Cancer UK, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwilwyr ac unigolion y mae canser y gwaed wedi effeithio arnynt, yn argymell gwelliannau mewn meysydd fel datblygu'r gweithlu, mentrau diagnosis cynnar, lleihau rhwystrau rhag cael gafael ar ofal, a chynyddu mynediad at driniaethau.
Mae dadansoddiad ar wahân gan Brifysgol Rhydychen, gyda chefnogaeth Ceri Bygrave a'r tîm o Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn dangos bod 940,000 o flynyddoedd posibl o fywyd wedi eu colli i bobl yn y DU sydd wedi cael diagnosis o ganser y gwaed dros gyfnod o 10 mlynedd. Mae mwy na thraean o'r rhain ymhlith pobl o dan 65 oed.
Canfu ymchwil hefyd fod cyfraddau goroesi yn amrywio yn dibynnu ar ffactorau fel lleoliad daearyddol, ethnigrwydd, a chefndir cymdeithasol. Canfu'r ymchwil newydd, pe bai pawb sy'n cael diagnosis o ganser y gwaed yn Lloegr â'r un cyfraddau goroesi pum mlynedd â'r rhai yn y cwintel lleiaf difreintiedig, amcangyfrifir y gellid osgoi 6,500 o farwolaethau ychwanegol y flwyddyn.
Wrth siarad yn benodol am yr heriau a wynebir yng Nghymru, dywedodd Dr Ceri Bygrave, a oedd yn aelod o Dasglu Blood Cancer UK:
"Mae'r gweithlu haematoleg dan bwysau ac yn brin o staff, gyda phrinder staff hanfodol a thriniaethau cynyddol gymhleth yn gadael pobl sy'n darparu gofal canser gwaed y GIG o dan bwysau mawr. Mae hon yn her arbennig yng Nghymru gan y bydd 74% o ymgynghorwyr haematoleg parhaol yn cyrraedd 60 oed erbyn 2032. Nid oes digon o hyfforddeion i gymryd eu lle ar hyn o bryd.
"Mae seilwaith y GIG sy'n prysur ddadfeilio yng Nghymru a seilwaith TG truenus sydd dipyn ar ei hôl hi o’i gymharu â chanolfannau eraill yn Lloegr oll yn ffactorau sy'n peryglu gofal cleifion canser y gwaed yn ddyddiol.
"Er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n goroesi canser y gwaed, mae'n rhaid i gynlluniau gweithlu'r GIG yn y dyfodol gynnwys cynyddu nifer yr arbenigwyr nyrsio clinigol canser y gwaed a'u cefnogi, yn ogystal â gweithredu i wyrdroi’r gostyngiad yn nifer y clinigwyr sy'n ymchwilio i ganser y gwaed."
Wrth siarad am yr adroddiad, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Blood Cancer UK, Helen Rowntree:
"O ystyried y camau breision rydym wedi'u cymryd mewn ymchwil canser y gwaed dros y 60 mlynedd diwethaf, canser y gwaed yw'r trydydd canser sy’n lladd y nifer mwyaf o bobl yn y DU. Mae bywydau diangen yn cael eu colli ac i'r rhai sy'n byw gyda chanser y gwaed mae ofn gwirioneddol nad ydyn nhw'n cael y gofal a'r gefnogaeth orau. Mae'r gymuned canser y gwaed yn haeddu gwell.
"Mae angen mynd ati ar frys i ddeall yr hyn sy’n sbarduno cyfraddau goroesi gwell mewn gwledydd sy'n perfformio'n dda a gweithredu fel y bo angen er budd y rhai sy'n cael eu heffeithio gan ganser y gwaed yn y DU. Mae ein hadroddiad, sy'n seiliedig ar fewnwelediad arbenigol, yn amlinellu cyfres o argymhellion i sicrhau bod pobl â chanser y gwaed yn cael y gofal gorau posibl. Os bydd Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a'r holl lunwyr polisi yn dod at ei gilydd i fynd i'r afael â'n hargymhellion yng Nghymru rydym yn hyderus y byddai hynny’n cyfrannu at sicrhau bod y DU ar flaen y gad o ran trin canser y gwaed, ni waeth pwy yw’r cleifion na ble maen nhw'n byw. Helpwch ni i sicrhau sylw i ganser y gwaed drwy ysgrifennu at eich AS a gofyn iddyn nhw gefnogi ein hargymhellion."
Mae Blood Cancer UK yn annog pobl i ysgrifennu at eu AS gan ofyn iddyn nhw gefnogi argymhellion yr elusen.