Rhowch ganser y gwaed ar agenda eich Aelodau o’r Senedd
Sut gallwch chi helpu
Diolch yn fawr i bawb a wnaeth ysgrifennu at eu hymgeiswyr am ganser y gwaed yn ystod etholiadau Senedd Cymru. Mae’r etholiadau bellach drosodd. Mae hi bellach yn amseer i chi gyflwyno eich Hunain i’ch Aelodau newydd o’r Senedd ac esbonio wrthynt sut y gallant hyrwyddo gwaith Blood Cancer UK yn y Senedd.
Hoffech chi weld yr wybodaeth hon yn Saesneg?
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael i’w darllen yn Saesneg
Stori Helen
“Mae angen i wleidyddion yng Nghymru roi sylw i ganser y gwaed”
Yn yr un modd â chynifer o bobl ledled Cymru, gwnaeth hi gymryd llawer yn rhy hir i mi gael diagnosis o ganser y gwaed. Rwy’n cofio nad oedd unrhyw un wedi gofyn i mi ddisgrifio fy symptomau hyd yn oed ac yn hytrach cefais fi nghyfeirio ar gyfer archwiliad uwchsain ymhen misoedd.
Roedd sicrhau diagnosis yn frwydr mewn gwirionedd a dim ond lwc oedd sicrhau archwiliad uwchsain cynharach a arweiniodd at fy niagosis. Ers hynny rwyf wedi dilyn gwaith Blood Cancer UK oherwydd rwy’n gwybod o brofiad mai mater o lwc yw sicrhau mynediad prydlon at driniaethau ar gyfer canser y gwaed yng Nghymru. Nid yw’r sefyllfa hon yn dderbyniol.
Dyma pam rwy’n gofyn i chi heddiw anfon e-bost at eich Aelodau o’r Senedd yn gofyn iddynt gyflawni dros bobl y mae canser y gwaed arnynt.
Boed o ran sicrhau mynediad cyfartal at driniaethau a threialon blaengar, cymorth gan weithlu canser y gwaed sydd wedi’i ariannu’n ddigonol neu sicrwydd o gael diagnosis mor gyflym â phosibl, ni ddylai unrhyw un yng Nghymru y mae canser y gwaed arnynt gael eu gadael ar ôl.
Ysgrifennwch at eich Aelodau o’r Senedd, a helpwch i sicrhau lle i ganser y gwaed ar eu hagenda o’r dechrau’n deg.
Rwy’n Llysgennad dros Blood Cancer UK ac yn aelod o’r Tȋm Polisi Cydweithredol – rwyf wedi cynrychioli’r elusen yn y Senedd, gan siarad â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch yr hyn y mae angen ei newid. Mae dulliau eraill o gefnogi gwaith ymgyrchu Blood Cancer UK, fodd bynnag, fel anfon e-bost at eich Aelodau newydd o’r Senedd.
Ailddarllen ein maniffesto
Gwnaethom gyhoeddi maniffesto a oedd yn gofyn i Lywodraeth newydd Cymru gyflawni saith cam.
Ymuno â’n Tȋm Polisi Cydweithredol
Mae ein Tȋm Polisi yn cynnwys pobl o bob rhan o’r DU sy’n dymuno helpu i lunio ein polisi a dylanwadu ar waith neu sy’n dymuno clywed diweddariadau rheolaidd am y gwaith rydym yn ei wneud.
Bod yn Llysgennad i Blood Cancer UK
Mae ein Llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth o’n gwaith drwy rannu eu straeon. Mynegwch eich diddordeb mewn bod yn Llysgennad drwy anfon e-bost at [email protected]
Discover more of our policy and influencing work
Put blood cancer on your MSP's agenda
It's time to introduce yourself to your MSPs and let them know how they can champion Blood Cancer UK in Holyrood.
UK Blood Cancer Action Plan
In 2024 we published our award-winning Action Plan which made 17 recommendations to improve blood cancer survival in the UK.
Join our Policy Collective
Our Policy Collective is made up of people from across the UK who want to help shape our policy and influencing work or just want to hear regular updates about the work we're doing.
National Cancer Plan for England
Find out what the National Cancer Plan for England means for people living with blood cancer, including what it means for the devolved nations.