£

Hoffech chi weld yr wybodaeth hon yn Saesneg?

Yr etholiadau

Beth y mae Senedd Cymru yn gyfrifol amdano?

Mae iechyd yn fater allweddol yn etholiadau'r Senedd yn 2026 oherwydd ei fod wedi'i ddatganoli'n lwyr, sy'n golygu mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am sut mae'r GIG yng Nghymru yn cael ei ariannu a'i ddarparu. I bobl sy'n byw gyda chanser y gwaed, mae hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar ddiagnosis, ar fynediad at driniaethau neu dreialon clinigol, a'r cymorth a'r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnynt.

Sut allai bleidleisio?

I ddod o hyd i'ch etholaeth a'ch gorsaf bleidleisio, i gofrestru i bleidleisio, gan gynnwys drwy'r post neu drwy ddirprwy, ac i ddysgu sut y gallai eich papur pleidleisio edrych yn wahanol i bapurau pleidleisio etholiadau blaenorol y Senedd y gallech fod wedi pleidleisio ynddynt, ’ewch i'r dudalen hon.

Newidiadau i’r Senedd yn 2026

Mae'r etholiad hwn yn nodi newidiadau mawr yn y Senedd, gyda 36 aelod ychwanegol yn cael eu hethol i'r Senedd o dan system bleidleisio newydd. Golyga hyn y bydd cyfanswm o 96 aelod yn cael eu hethol y tro hwn. Gallai hyn olygu bod mwy o Aelodau ar gael i hyrwyddo achos canser y gwaed yn y Senedd. Mae yna etholaethau newydd hefyd, gyda 16 etholaeth yn ethol chwe Aelod o'r Senedd. Am y tro cyntaf, gall pawb 16 oed a hŷn bleidleisio. Mwy yma.